The Dream of Rhonabwy







return to main page

Dream of Rhonabwy


A Welsh Tale from Red Book of Hergest, ca. 1400
from
The Mabinogion, tr. by Lady Charlotte Guest, (1877)


Welsh Transcription


Go to name list


Madawc uab maredud a oed idaw powys yn y theruyneu.
Sefyw hynny o porford hyt yg gwauan yg gwarthaf arwystli.
Ac yn yramser hwnnw brawt a oed idaw.
nyt oedkyuurd gwr ac ef.
Sef oed hwnnwJorwoerth uab maredud.
a hwnnw agymerth goueileint mawr yndaw athristwch o welet yr enryded a r medyant a oed y vrawt ac ynteu heb dim.
Ac ymgeissaw a oruc a e gedymdeithona e vrodoryon maeth.
ac ymgyghorac wynt beth a wnelei am hynny.
Sef a gawssant yn eu kyghor.
ellwngrei o·nadunt y erchi gossymdeith idaw.
sef y kynnigywys madawc idaw.
y pennteuluaeth a chystal ac idawe hun.
a meirch ac arueu.
ac enryded.
a gwrthot hynny a oruc iorwoerth.
a mynet ar herw hyt yn lloeger.
allad kalaned a llosgi tei.
a dala karcharoryon a oruc Jorwerth.
a chyghor a gymerth madawc a gwyr powys ygyt ac ef.
Sef y kawssant yneu kynghor gossot kanwr ympoptri chymwt ym powys o e geissaw.
A chystal y gwneynt rychtir powys.
o aber ceirawc y mallictwn vetyn ryt wilure ar ef·yrnwy.
a r tri chy ̷mwt goreu oed ym powys.
ar* ny vydei da idaw a r teulu ym powys.
arny bei da idaw yn y rychtir hwnnw.
a hyt yn nillystwn trefan yn y rych ̷tir hwnnw yd ymrannassant ygwyr hynny.
a gwr a oed ar y keishwnnw sef oed y enw Ronabwy.
ac y doeth ronabwy a chynnwricvrychgoch gwr o vawdwy.
a chadwgawn vras gwr o voelure yg kynlleith y ty heilyngoch uab kadwgawn uab idon yn ran.
A phandoethant parth a r ty.
Sef y gwelynt hen neuad purdu tal unyawn.
a mwc ohonei digawn y ueint.
Aphan doethant y mywn y gwelyntlawr pyllawc an·wastat.
yn y lle ybei vrynn arnaw.
abreid y glyneidyn arnaw rac llyfnet y llawr ganvissweil gwarthec a e trwnc.
yn y lley bei bwll dros vynwgyl y troet yd aei y dyn gan gymysc dwfyr athrwnc y gwarthec.
a gwrysc kelyn yn amyl ar y llawr.
gwedy ryyssu o r gwarthec eu bric.
A phandeuthant y kynted y ty y gwelyntpartheu llychlyt goletlwm.
agwrwrach* yn ryuelu ar y neillparth.
a phan de·elei annwyt arnei y byryei arffedeit o r us am penn ytan hyt nat oed hawd y dyn o rbyt diodef y mwc hwnnw yn mynet y mywn y dwy ffroen.
ac ar yparth arall y gwelynt croen dinawet melyn ar y parth.
a blaenbrenoed gan vn onadunt a gaffei vynet ar y croen hwnnw.
a gwedyeu heisted gofyn a orugant y r wrachpa du yd oed dynyon y ty.
ac nydywedei y wrach wrthunt namyngwrthgloched.
ac ar hynny nachaf y dynyon yn dyuot.
gwr cochgoaruoel gogrispin.
a beich gwrysc ar y gefyn.
a gwreic veinlasvechan.
a chesseilwrn genti hithev.
a glasressawu a wnaethant ar ygwyr.
a chynneu tan gwrysc udunta mynet y pobi a oruc y wreic.
adwyn y bwyt udunt.
bara heid achaws a glastwfyr llefrith.
ac arhynny nachaf dygyuor o wynta glaw hyt nat oed hawd y nebvynet y r aghenedyl.
ac rac annesmwythet gantunt eu kerdetdyffygyaw a orugant a mynet ygysgu.
A phan edrychwyt y dylenyt oed arnei namyn byrwellt dysdlyt chweinllyt.
a boneu gwryscyn amyl trwydaw.
a gwedy ry ussuo r dinewyt y meint gwellt a oeduch eu penneu ac is eu traet arnei.
Breckan lwytkoch galetlomtoll a dannwyt arnei.
a llenllieinvrastoll trychwanawc ar uchaf yvreckan.
a gobennyd lletwac.
a thudet govudyr idaw ar warthaf y llenlliein.
ac y gyscu yd aethant.
achyscu a disgynnwys ar deu gedymdeith ronabwy yn trwm.
gwedy ygoualu o r chwein a r an·nesmwythder.
A ronabwy hyt na allei nachyscu na gorffowys.
medylyawa oruc bot yn llei boen idaw mynetar groen y dinawet melyn y r parthy gysgu.
Ac yno y kysgwys.
Acyn gytneit ac y daeth hun yn y lygeit y rodet drych idaw y vot ef a egedymdeithon yn kerdet ar trawsmaes.
argygroec a e ohen a e vryta debygei y uot parth a ryt y groesar hafren.
Ac val yd oed yn kerdety clywei twryf.
a chynhebrwyd y rtwryf hwnnw ny s ry glywssei eiryoet.
Ac edrych a oruc dra e gefyn.
Sef y gwelei gwraenc penngrych melyn.
a e varyf yn newydeillaw y ar varch melyn.
Ac o penny dwygoes a thal y deulin y waeretyn las.
a pheis o bali melyn amy marchawc.
wedy ry wniaw acadaued glas.
a chledyf eurdwrnar y glun.
a gwein o gordwalnewyd idaw.
A charrei o ledyr ewic.
A gwaec erni o eur.
Ac ar warthaf hynny llenn o pali melynwedy ry wniaw a sidan glas.
a godreon y llenn las ac a oed las owisc y marchawc a e uarch a oedkyn lasset a oed kyn lasset a deil y ffenitwyd.
ac a oed velyn o·honeia oed kyn uelynet a blodeu y banadyl.
a rac druttet y gwelynt y marchawc.
dala ofyn a wnaethant a dechreu ffo.
ac eu hymlit a oruc y marchawc.
aphan rynnei y march y anadyl ywrthaw y pellaei y gwyr y wrthaw.
A phan y tynnei attaw y nesseynt wynteu attaw hyt ym bron y march.
a phan y gordiwedawd erchi nawd a orugant idaw.
Chwi a e keffwch yn llawen.
ac na vit ofyn arnawch.
Ha vnbennkan rodeist nawd ynn.
a dywedy ynnpwy wyt heb·y ronabwy.
Ny chelaf ragot vyg kystlwn.
Jdawc uab mynyo.
Ac nyt o m henw y m clywir yn vwyaf.
namyn o m llysenw.
a dywedy di ynnipwy dy lyssenw.
dywedaf.
Jdawc cordprydein y m gelwir.
Ha vn·benn heby ronabwy pa ystyr y th elwir ditheuvelly.
Mi a e dywedaf itt yr ystyr.
vnoedwn o r kenadeu yg kat gamlan yrwng arthur a medrawt y nei.
a gwrieuanc drythyll oedwn i yna.
ac racvy chwannocket y vrwydyr y tervysgeisy·rygtunt.
Sef y ryw teruysc a orugum.
pan ym gyrrei.
i.
y r amherawdyr arthury venegi y vedrawt y uot yn datmaethac yn ewythyr idaw.
ac rac llad meibonteyrned ynys prydein a e gwyrda yerchi tag nefed.
A phan dywettei arthur yr ymadrawd teckaf wrthyf o r a allei.
y dywedwn ynneu yrymadrawd hwnnw yn haccraf a allwnwrth vedrawt.
ac o hynny y gyrrwytarnaf ynneu idawc cord brydein.
ac ohynny yd ystovet y gatgamlan.
Ac eissoes teirnos kynn gorffen y gatgamlan.
yd ymedeweis ac wynt.
Ac ydeuthum hyt ar y llech las ym prydeiny penytyaw.
Ac yno y bum seith mlyned yn penydyaw.
A thrugared a gefeis.
ar hynny nachaf y clywynt twryfoed vwy o lawer no r twrwf gynt.
A phanedrychassant tu a r twryf.
nachaf wasmelyngoch ieuanc heb varyf a hebdrawsswch arnaw.
A gosged dylyedawcarnaw y ar varch mawr.
Ac o penny dwy ysgwyd.
a thal y deulin y waerety r march yn velyn.
a gwisc ymdany gwr o pali coch gwedy ry wniaw asidann melyn.
a godreon y llen ynvelyn.
ac ar a oed velyn o e wisc efa e varch a oed kyn uelynet a blodeuy banadyl.
ac a oed goch o·honuntyn gyn gochet a r gwaet cochaf o rbyt.
Ac yna nachaf y marchawc yneu gordiwes.
ac yn gofyn y Jdawc agaffei ran o r dynyon bychein hynnygantaw.
Y ran a weda ymi y rodimi a e rodaf.
bot yn gedymdeith udunt ual y bun* ynneu.
a hynnya oruc y marchawc a mynet ymeith.
Jdawc heb·y ronabwy pwy oed y marchawc hwnn.
Rwawn bybyr uab deorthach wledic.
Ac yna y kerdassantar traws maes mawr ar·gygroec.
hyt yn ryt y groes ar hafren.
a milltir y wrth y ryt o pob tu y r fford ygwelynt y lluesteu a r pebylleu.
a dygyfor o lu mawr.
Ac y lan y ryt ydeuthant.
Sef y gwelynt arthuryn eisted mywn ynys wastat is yryt.
ac o r neillparth idaw betwinescob.
ac o r parth arall gwarthegytvab kaw.
a gwas gwineu mawr ynseuyll rac eu bronn.
a e gledeu trwyy wein yn y law.
A pheis a chapan opali purdu ymdanaw.
Ac yn gynwynnet y wyneb ac ascwrn yr eliffant.
ac yn gyn duet y aeleu a r muchud.
Ac ny welei dyn dim o e ardwrn y·rwng y venic a e lewys.
Gwynnach oed no r alaw.
a breisgach oedno mein eskeir milwr.
ac yna dyuoto Jdawc ac wynteu y·gyt ac ef hytrac bronn arthur.
a chyfarch gwellidaw.
Duw a rodo da ytt heb·yr arthur.
Pa du idawc y keueist di y dynyonbychein hynny.
Mi a e keueis arglwyd uchot ar y ford.
SSef a oruc yr amherawdyr glas owenu.
arglwyd heb Jdawc Beth a chwerdy di.
Jdawcheb·yr arthur.
nyt chwerthin a wnafnamyn truanet gennyf vot dynyonky vawhet a hynn yn gwarchadwyr ynys honn.
gwedy gwyr kystalac a e gwarchetwis gynt.
Ac ynay dywawt Jdawc.
Ronabwy a welydi y vodrwy a r maen yndi ar lawyr amherawdyr.
gwelaf heb ef.
vno rinwedeu y maen yw.
dyuot cof ytia weleist yma heno.
a phei na welutti y maen ny doei gof ytti dim o hynno dro.
a gwedy hynny y gwelei vydin yn dyuot tu a r ryt.
Jdawc heby ronabwy pieu y vydin racko.
Kedymdeithon rwawn pebyr uabdeorthach wledic.
A r gwyr racko agaffant med a bragawt yn enrydedus.
ac a gaffant gorderchu merchet teyrned ynys prydein yn diwaravunac wynteu a e dylyant hynny.
Kanys ympob reit y deuant yn y vlaen ac yn y ol.
ac ny welei amgen liwnac ar varch nac ar wr o r vydin honno.
namyn eu bot yn ky gochet a rgwaet.
Ac o r gwahanei vn o r marchogyon y wrth y vydin honno.
kynhebic y post tan vydei yn kychwynnu y r awyr.
A r vydin honno ynpebyllyaw uch y ryt.
Ac ar hynnyy gwelynt vydin arall yn dyuottu a r ryt.
Ac o r korueu blaen y rmeirch y uynyd yn gy wynnheta r alaw.
ac o hynny y waeret yngy duet a r muchud.
SSef y gwelyntvarchawc yn racvlaenu ac yn brathu march yn y ryt yny ysgeinwysy dwfyr am penn arthur a r escob.
ac a oed yn y kyghor y·gyt ac wynt.
yny oedynt kyn wlypet a chyttynnit o r auon.
Ac ual yd oed yntrossi penn y varch.
ac a traweiy gwas oed yn seuyll rac bronnarthur y march ar y dwyffroena r cledyf trwy y wein.
yny oed6ryued bei trewit ar dur na bei yssic ygkwaaethach ai kic neu ascwrn.
a thynnu a oruc y marchawc y gledyf hyt am y hanner y wein.
a gofyn idaw paham y treweist ti vy march i.
ae yr amarch y miae yr kyghor arnaf.
Reit oed itt wrthgyghor.
Pa ynvydrwyd a wnaei y ttivarchogaeth yn gy druttet ac y hystey*nei y dwfyr o r ryt am penn arthur a r esgob kyssegredic.
ac eu kyghorwyr yny oedynt kyn wlypet a chyt tynnit o r auon.
Minneu a e kymeraf yn lle kyghor.
acymchoelut penn y uarch drachefyn tu a evydin.
Jdawc heb·y ronabwy pwy ymarchawc gynneu.
Y gwas ieuanc kymhennaf a doethaf a wneir yn y teyrnashonn.
adaon uab telessin.
Pwy oed ygwr a drewis y varch ynteu.
Gwas traws fenedic.
elphin uab gwydno.
Ac ynay dywawt gwr balch telediw.
ac ymadrawd bangaw ehawn gantaw.
bot yn ryued kysseingaw llu kymeint a hwnn ynlle ky gyfyghet a hwnn.
ac a oed ryuedach ganthaw bot yma yr awr·honna adawei eu bot yg gweith uadon erbynnhanner dyd yn ymlad ac osla gyllellwar.
a dewis di ae kerdet ae na cherdych.
Miui a gerdaf.
Gwir a dywedy heb·yrarthur.
a cherdwn ninneu y·gyt.
Jdawcheb·y ronabwy pwy y gwr a dywawt yngyn aruthret wrth arthur.
ac y dywawty gwr gynneu.
Gwr a dylyei dywedutyn gyn ehofnet ac y mynnei wrthaw.
karadawc vreichuras uab llyr mariui pennkyghorwr a e gefynderw.
Ac odyna Jdawc a gymerth ronabwy is ygil.
ac y kychwynnyssont y llu mawrhwnnw bop bydin yn y chyweir partha cheuyndigoll.
A gwedy eu dyuothyt ym perued y ryt ar hafren.
troia oruc idawc penn y varch dra e gefynac edrych a oruc.
ronabwy ar dyffryn hafren.
Sef y gwelei dwy vydinwaraf yn dyuot tu a r ryt arhafren.
a bydin eglurwenn yn dyuot.
a llen o bali gwyn am bopun o·nadunt.
a godryon pob vn yn purdu.
a thal eu deulin a phenneu eu dwygoes y r march yn purdu.
a r meirchyn ganwelw oll namyn hynny.
ac euharwydon yn purwynn.
a blaen pobun ohonunt yn purdu.
Jdawc heb·yronabwy pwy y vydin burwenn racco.
Gwyr llychlyn yw y rei hynny.
a marchuab meirchawn yn tywyssawc ar·nadunt.
kefynderw y arthur yw hwnnw.
Ac odyna y gwelei vydin ˄a gwisc purdu ambop un o·nadunt.
a godreon pob llenn ynpurwynn.
ac o penn eu dwygoes a thal eu deulin y r meirch yn purwynn.
ac eu harwydon yn purdu.
A blaen pobvn ohonunt yn purwynn.
Jdawc heby ronabwy pwy y vydin purdu racco.
Gwyr denmarc.
ac edern uab nudyn tywyssawc arnadunt.
A phan ordiwedassant y llu.
neur disgynnasseiarthur a e lu y kedyrn od·is kaervadon.
a r fford y kerdei arthur ygwelei ynteu y uot ef ac idawc yn kerdet.
A gwedy y disgynnv y klywei twryf mawr a·brwysgyl ar y llu.
A r gwra uei ar ymyl y llv yr awrhonn.
a vydei ar eu kanawl elchwyl.
a r hwnn avydei yn y kanawl a vydei ar yr ymyl.
ac ar hynny nachaf y gwelei varchawc yn dyuot a lluruc ymdanaw.
acam y varch ky wynnet y modrwyeua r alaw gwynnaf.
a ch·yn gochet yhoelon a r gwaet cochaf.
a hwnnw ynmarchogaeth ymplith y llu.
Jdawcheb·y ronabwy ae ffo a wna y llu ragof.
ny ffoes yr amherawdyr arthur eiryoet.
a phei clywit arnat yr ymadrawd hwnn gwr diuethaf vydut.
namyny marchawc a wely di racko.
Kei ywhwnnw.
teckaf dyn a varchocka ynllys arthur yw kei.
a r gwr ar ymyly llu yssyd yn bryssyaw yn ol y edrychar kei yn marchogaeth.
a r gwryn y kanol yssyd yn ffo y r ymyl rac6y vriwaw o r march.
a hynny ywystyr kynnwryf y llu.
ar hynnysef y clywynt galw ar gadwr iarllkernyw.
nachaf ynteu yn kyuot.
a chledyf arthur yn y law.
a llun deusarf ar y cledyf o eur.
A phan tynnit y cledyf o e wein.
ual dwy fflam o tan a welit o eneueu y seirf.
a hynny nyt oed hawd y nebedrych arnaw rac y aruthret.
Ar hynny nachaf y llu yn arafhau a r kynnwryf yn peidaw.
Acymchoelut o r iarll y r pebyll.
Jdawcheb·y ronabwy pwy oed y gwr a ducy cledyf y arthur.
Kadwr iarllkernyw gwr a dyly gwisgaw y arueu am y brenhin yn dyd kat acymlad.
ac ar hynny y clywyntgalw ar eiryn wych am·heibyngwas arthur gwr garwgoch anhegar.
a thrawsswch goch idaw.
ablew seuedlawc arnei.
nachafynteu yn dyuot ar uarch cochmawr.
gwedy rannu y vwng oboptu y vynwgyl.
a swmer mawrtelediw gantaw.
a disgyn a orucy gwas coch mawr rac bron arthur.
a thynnu kadeir eur o r swmera llenn o pali kaerawc.
A thannuy llenn a oruc rac bronn arthur.
Ac ˄aual rud·eur wrth bop koghylidi.
a gossot y gadeir ar y llenn.
a chymeint oed y gadeir ac ygallei tri milwr yn aruawc eisted.
Gwenn oed enw y llenn.
ac vno genedueu y llenn oed.
y dyny dottit yn y gylch.
ny welei nebeuo ac euo a welei bawp.
ac nythrigyei liw arnei vyth.
namyny lliw e hun.
Ac eisted a oruc arthurar y llenn.
Ac owein uab uryenyn seuyll rac y uron.
Owein hebarthur a chwaryy di wydbwll*.
Gwaryaf arglwyd heb owein.
A dwyn o r gwas coch yr wydbwyll y arthur ac owein.
Gwerin eur.
aclawr aryant.
a dechreu gware a wnaethant.
A phan yttoedynt uellyyn digrifaf gantunt eu gware uchyr wydbwyll.
nachaf y gwelynt opebyll gwynn penngech* a delw sarfpurdu ar penn y pebyll.
a llygeitrudgoch gwenwynic ym penn ysarf.
a e dauawt yn fflam·goch ynyvyd mackwy ieuanc pengrych melyn llygatlas yn glassu baryf yndyuot.
a pheis a swrcot o pali melyn ymdanaw.
a dwy hossan o vrethyn gwyrdvelyn teneu am y traet.
ac uchaf yr hossaneu dwy wintaso gordwal brith.
a chaeadeu o eur oeur am vynynygleu y draet yn eukaeu.
a chledyf eurdwrn trwm trichanawl.
a gwein o gordwal du idawa swch o rudeur coeth ar penn y weinyn dyuot tu a r lle yd oed yr amherawdyrac owein yn gware gwydbwyl.
a chyuarch gwell a oruc y mackwy y owein.
a ryuedu o owein y r mackwy gyuarch gwell idaw ef ac na s kyfarchei y ramherawdyr arthur.
a gwybot a wnaetharthur panyw hynny a uedylyei owein.
a dywedut wrth owein.
Na vitryued gennyt y r mackwy gyfarchgwell ytt yr awr·honn.
ef a e kyfarchwys y minheu gynneu.
ac attat titheu y mae y neges ef.
Ac yna y dywawt y mackwy wrth owein.
Arglwyd ae o th gennyat ti y mae gweissonbychein yr amherawdyr a e uackwyeit yn kipris ac yn kathefrach ynblinaw dy vrein.
Ac onyt o th gennyat.
par y r amherawdyr eu gwahard.
Arglwyd heb·yr owein.
ti a glywya dyweit y mackwy os da genhytgwahard wynt y wrth vy mranos.
Gware dy chware heb ef.
Ac ynayd ymchoeles y mackwy tu a e bebyll.
Teruynu y gware hwnnw a wnaethant.
a dechreu arall.
A phanyttoedynt am hanner y gware llyma6was Jeuanc coch gobengrych gwineullygadawc hydwf gwedy eillaw y varyfyn dyuot o pebyll puruelyn.
a delw llewpurgoch ar penn y pebyll.
a pheis opali melyn ymdanaw yn gyfuch a mein y esceir.
gwedy y gwniaw ac adaned osidan coch.
a dwy hossan am y draet ovwckran gwyn teneu.
Ac ar uchaf yrhossaneu dwy wintas o gordwal duam y draet.
a gwaegeu eureit arnadunt.
a chledyf mawr trwm tri·chanawlyn y law.
a gwein o hydgen coch idaw.
aswch eureit ar y wein yn dyuot tu a r lleyd oed arthur ac owein yn gware gwydbwyll.
a chyuarch gwell idaw.
a drwc ydaeth ar owein gyuarch gwell idaw.
acny bu waeth gan arthur no chynt.
Ymackwy a dywawt wrth owein ae o thanuod di y mae mackwyeit yr amherawdyr.
yn brathu dy vrein.
ac yn llad ereill.
ac yn blinaw ereill.
ac os anuodgennyt.
adolwc idaw y gwahard.
Arglwyd heb owein.
gwahard dy wyros da gennyt.
Gware dy whare hebyr amherawdyr.
Ac yna yd ymchoeles ymackw·y tu a e pebyll.
Y gware hwnnwa teruynwyt a dechreu arall.
ac ual ydoedynt yn dechreu y symut kyntafar y gware.
Sef y gwelynt ruthur ywrthunt pebyll brychuelyn mwyhafo r a welas neb.
a delw eryr o eur arnaw.
a maen gwerthuawr ym penn yr eryr.
Yn dyuot o r pebyll y gwelynt vackwya gwallt pyb·yruelyn ar y benn yn tecgosgeidic.
a llenn o pali glas ymdanaw.
a gwaell eur yn y llenn ar yr ysgwyd deheu idaw.
kyn vrasset a garanvys milwr.
a dwy hossan am y traet o twtneis teneu.
a dwy esgit o gordwal britham y traet.
a gwaegeu eur arnadunt.
Y gwas yn vonhedigeid y bryt wynebgwyn grudgoch idaw.
a llygeit mawr hebogeid.
Ẏn llaw y mackwy yd oed paladyr bras vrith uelyn.
a phenn newydlifarnaw.
ac ar y paladyr ystondard amlwc.
Dyuot a oruc y mackwy yn llidyawc angerdawl.
a thuth e·brwyd gantaw tu a r lleyd oed arthur yn gware ac owein vchpennyr wydbwyll.
ac adnabot a orugant y votyn llidiawc.
A chyuarch gwell eissoes yowein a oruc ef.
a dywedut idaw ry daruotllad y brein ar·bennickaf o·nadunt.
ac arny las o·nadunt wynt a vrathwyt ac a vriwyt yn gymeint ac na digawn yr vn o·naduntkychwynnv y hadaned un gwryt y wrth ydayar.
Arglwyd heb·yr owein gwahard dywyr.
Gware heb ef os mynny.
Ac yna ydywawt owein wrth y mackwy.
dos ragot acyn y lle y gwelych y brwydyr galettaf.
dyrchafyr ystondard y vynyd.
ac a vynno duw derffit.
Ac yna y kerdwys y mackwy racdaw hyt ylle yd oed galettaf y vrwydyr ar y brein.
a dyrchauel yr ystondard.
Ac ual y dyrchefit y kyuodant wynteu y r awyr yn llidiawc angerdawl orawenus.
y ellwng gwynt yn eu hadanedac y vwrw y lludet y arnunt.
A gwedy kaffel eu hangerd.
ac eu budugolyaeth.
ynllidyawc orawenus yn gytneit y gostygassant y r llawr am penn y gwyr.
a wnathoedynt lit a goueileint a chollet udunt kynno hynny.
Penneu rei a dygynt.
llygeit ereill.
a chlusteu ereill.
a breicheu ereill.
a e kyuodi y r awyr a wneynt.
a chynnwryf mawr a uu yn yr awyr gan asgellwrych y brein gorawenus ac eu kogor.
a chynnwryf mawr arall gan disgyryeiny gwyr.
yn eu brathu ac yn eu hanauuac yn llad ereill.
a chan aruthret uugan arthur.
a chan owein vch benn yrwydbwyll klybot y kynnwryf.
A phan edrychant y klywynt marchawc ar varcherchlas yn dyuot attunt.
lliw enryued aoed ar y uarch yn erchlas.
a r vreich deheu idaw yn purgoch.
oc* o penn y goesseu hyt y mynwes y ewined y garn yn puruelyn idaw.
y marchawc yn gyweir a evarch o arueu trymyon estronawl.
Cwnsallt y varch o r gorof vlaen idaw y vynydyn syndal purgoch.
Ac o r gorof y waeretyn syndal puruelyn.
Cledyf eurdwrn mawr un min ar glun y gwas.
a gwein burlas idaw newyd a swch ar y wein o lattwn yr yspaen.
gwregys y cledyf o gordwalewyrdonic du.
a throstreu goreureit arnaw.
a gwaec o asgwrn elifant arnaw.
a ba6lawc purdu ar y waec.
Helym eureitar penn y marchawc.
a mein mawrweirthawc gwyrthuawr yndi.
ac arpenn yr helym delw llewpart melynrud.
a deu vaen rudgochyon yn y penn.
mal yd oed aruthur y vilwr yr kadarnet vei y gallon edrych yn wyneb yllewpart anghwaethach yn wyneby milwr.
Gwaell paladyrlas hirtrwmyn y law.
ac o e dwrn y vynyd yn rudgoch.
Penn y paladyr gan waet ybrein ac eu pluf.
Dyuot a oruc ymarchawc tu a r lle yd oed arthur acowein vchpenn yr wydbwyll.
Ac adnabot a orugant y uot yn lludediclityawcvlin yn dyuot attunt.
Y makwy a gyuarchawd gwell y arthur aca dywawt vot brein owein yn llad yweisson bychein a e vackwyeu.
Ac edrych a oruc arthurthur ar owein.
adywedut.
gwahard dy vrein.
Arglwyd heb·yr owein gware dy chware.
a gware a wnaethant.
Ymchoelut a oruc y marchawc drachefyn tu a r vrwydyr.
ac ny wahardwyt y brein mwyno chynt.
a phan yttoedynt gwedygware talym.
sef y klywynt kynnwryf mawr.
a disgyryein gwyr.
a chogor brein yn dwyn y gwyr yn eu nyrthy r awyr ac yn eu hyscoluaethu rydunt.
ac yn eu gollwng yn drylleu y rllawr.
Ac y wrth y kynnwryf y gwelyntuarchawc yn dyuot ar uarch kanwelw.
a r ureich asseu y r march yn purdu hyt y mynnwes y garn.
Y marchawc yn gyweir ef a e varch o aruewtrymleisson mawr.
Cwnsallt ymdanaw o pali kaerawc melyn.
a godreony gwnsallt yn las.
kwnsallt y uarchyn purdu.
a e odreon yn puruelyn.
Ar glun y mackwy yd oed gledyf hirdrwm trichanawl.
a gwein o ledyr cochysgythredic idaw.
a r gwregis o hydgen newydgoch.
a throstreu euramyl arnaw.
a gwaec o asgwrn moruil arnaw.
a balawc purdu arnaw.
helymhelym eureit am penn y marchawc.
amein saffir rinwedawl yndi.
ac ar pennyr helym.
delw llew melyngoch.
a e dauawt yn fflamgoch troetued o e penn allan.
a llygeit rudgochyon gwennwynic yn ybenn.
y marchawc yn dyuot a phaladyrllinon bras yn y law.
a phenn newydgwaetlyt arnaw.
a llettemmeu aryantyndaw.
a chyfarch gwell a oruc y mackwyy r amherawdyr.
Arglwyd heb ef.
neur derw llad dy uackwyeit a th weisson bycheina meibon gwyrda ynys prydein.
hyt nabyd hawd kynnal yr ynys honn bytho hediw allan.
Owein heb arthur.
gwahard dy vrein.
Gware arglwyd heb owein y gware hwnn.
Daruot a wnaethy gware hwnnw a dechreu arall.
a phanyttoedynt ar diwed y gware hwnnw.
nachaf y klywynt gynnwryf mawr.
a disgyryein gwyr aruawc.
a chogor breinac eu hasgellwrych yn yr awyr.
ac yngollwng yr arueu yn gyfan y r llawr.
ac yn gollwg y gwyr a r meirch yn drylleu y r llawr.
Ac yna y gwelynt uarchawc y ar varch olwyn du pennuchel.
aphenn y goes asseu y r march yn purgoch.
a r vreich deheu idaw hyt y mynwes y garn yn purwyn.
Y marchawc a euarch yn aruawc o arueu brychuelynyon.
wedy eu brithaw a lattwn yr yspaen.
a chwnsallt ymdanaw ef ac ymdan yuarch deu hanner gwynn a phurdu.
a godreon y gwnsallt o porffor eureit.
ac ar uchaf y gwnsallt cledyf eurdwrngloew trichanawl.
gwregis y cledyf oeurllin melyn.
a gwaec arnaw o amrantmoruarch purdu.
a balawc o eur melyn ar y waec.
Helym loyw am penny marchawc o lactwnn melyn.
a meincristal gloew yndi.
ac ar penn yr helymllun ederyn egrifft.
a maen rinwedawlyn y penn.
Paladyr llinwyd palatyrgrwn yn y law.
gwedy y liwaw ac asur6glas.
penn newyd gwaetlyt ar y paladyrgwedy y lettemmu ac aryant coeth.
A dyuot a oruc y marchawc yn llidiawc y r lleyd oed arthur a dywedut daruot y r breinlad y deulu a meibon gwyrda yr ynys honn.
ac erchi idaw peri y owein wahard y vrein.
Yna yd erchis arthur y owein wahardy urein.
Ac yna y gwasgwys arthur ywerin eur a oed ar y clawr yny oedyntyn dwst oll.
ac yd erchis y owein wersuab reget gostwng y vaner.
Ac ynay gostyghwyt ac y tagnouedwyt pobpeth.
Yna y govynnwys ronabwy yJdawc pwy oed y trywyr kyntaf a deuthat owein.
y dywedut idaw uot yn llady vrein.
ac y dywawt idawc.
gwyr oeddrwc ganthunt dyuot collet y owein.
Kytunbynn idaw a chedymdeithon.
Selyf uab kynan.
garwyn o powys.
a gwgawn gledyfrud.
a gwres uabreget.
y gwr a arwed y uaner yn dyd katac ymlad.
Pwy heb·y ronabwy y trywyr diwethaf a deuthant att arthur.
y dywedut idaw ry uot y brein yn llady wyr.
Y gwyr goreu heb·yr Jdawc adewraf.
a hackraf gantunt golledu arthur o dim.
Blathaon uab mwrheth.
arwawn pebyr uab deorthach wledic.
a hyueid unllenn.

Proper names




Ac ar hynny nachaf pedwar marchawc ar hugeintyn dyuot y gan
ossa gyllellwawr.
y er ̷chi kygreir y arthur hyt ympennpythewnos a mis.
Sef a wnaeth arthur kyuodi a mynet y kymryt kyghor.
sef yd aeth tu a r lle yd oed gwr pengrych gwineu mawr rynawd y wrthaw.
ac yno dwyn y gyghorwyr attaw.
Betwin escob.
gwarthegyt uab kaw.
march uab meirchawn.
chradawc ureichuras.
gwalchmei uab gwyar.
edyrn uab nud.
rwawn pebyr uabdeorthach wledic.
riogan uab brenhinJwerdon.
gwenvynnwyn uab naf
Howel uab emyr llydaw.
Gwilim uabrwyf freinc.
danet mab oth.
goreu custennin.
mabon Mab modron.
pheredur paladyr hir.
heueid wn llen.
thwrch mab perif.
Nerth Mab kadarn.
gobrw mab ethel uordwyt twyll.
gweirmab gwestel.
adwy uab gwereint.
Dyrstan mab talluch.
Moryen manawc.
granwen mab llyr.
llacheu mabarthur.
llawuroded uaryfawc.
chadwr iarll kernyw.
Moruran eil tegit.
ryawd eil morgant.
dyuyr uab alun dyuet.
gwryr gwalstot ieithoed.
adaon mab telyessin.
llara uab kasnat wledic.
ffleudur fflam.
greidyal gall dofyd.
Gilbert mab katgyffro.
Menw mab teirgwaed.
gyrthmwl wledic.
Hawrda uab karadawc vreichuras.
Gildas mab kaw.
karieith mab seidi.


a llawer o wyr llychlyn adenmarck.
a llawer o wyr groec ygytac wynt.
A digawn o lu a deuth y r kyghor hwnnw.
Jdawc heb·y ronabwy.
Pwy y gwr gwineu y deuthpwyt attawgynneu.
Run uab maelgwn gwynedgwr y mae o vreint idaw dyuot pawp yymgyghor ac ef.
Pa achaws y ducpwytgwas ky ieuanghet yg kyghor gwyrky·vurd a r rei racko.
mal kadyrieithmab saidi.
wrth nat oed ym prydeingwr wrdarch y gyghor noc ef.
ac ar hynny nachaf ueird yn dyuot y datkanvkerd y arthur.
ac nyt oed dyn a adnapei y gerd honno.
namyn kadyrieithe hun.
eithyr y uot yn uolyant y arthur.
Ac ar hynny nachaf pedeir assen ar ugeint ac eu pynneu o eur ac aryantyn dyuot.
a gwr lludedicvlin ygyt aphob un ohonunt yn dwyn teyrngety arthur o ynyssed groec.
Yna yd erchis kadyrieith mab saidi rodi kygreir y osla gyllellwawr hyt ympennpythewnos a mis.
a rodi yr assennoed7a dathoed a r teyrnget y r beird.
ac a oedarnunt yn lle gobyr ymaros.
ac yn oet y gygreir talu eu kanu udunt.
Ac ar hynny y trigywyt.
Ronabwyheb Jdawc ponyt cam gwarauun y rgwas ieuanc a rodei gyghor ky helaethet a hwnn vynet ygkyghor y arglwyd.
Ac yna y kyuodes kei ac y dywawt.
pwy bynnac a vynno kanlyn arthur.
bit heno y ghernyw gyt ac ef.
Ac arny s mynno.
bit yn erbyn arthurhyt yn oet y gygreir.
ac rac meint ykynnwrwf hwnnw deffroi a oruc ronabwy.
A phan deffroes yd oed ar groeny dinawet melyn.
gwedy ry gyscu ohonaw teir nos a thri dieu.
a r ystorya honna elwir breidwyt ronabwy.
a llyma yrachaws na wyr neb y vreidwyt.
na bardna chyfarwyd heb lyuyr.
o achaws ygeniuer lliw a oed ar y merch* a hynnyo amrauael liw odidawc ar ar yr aruevac eu kyweirdebeu.
ac ar y llenneu gwerthuawr a r mein rinwedawl.
~